Ellen ParryWILLIAMSDymuna Bethan a Mike a'r teulu ddiolch o waelod calon am yr holl garedigrwydd a chydymdeimlad a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli mam a mam yng nghyfraith annwyl ac arbennig iawn. Gwerthfawrogwyd y llu o gardiau, galwadau ffôn, ymweliadau a rhoddion tuag at Ysbyty Bryn Beryl. Diolch i'r Parch Geraint Roberts a'r Parch Iwan Llewelyn Jones am eu gwasanaeth ac i Hugh Gwynne yr organydd. Diolch hefyd i David a staff Pritchard a Griffiths am eu gofal a'u trefniadau trylwyr.
Heol Dulyn, Tremadog, Gwynedd LL49 9RH 01766 512091 - post@pritchardgriffiths.co.uk
Keep me informed of updates